Codau Hyrwyddo
*Sylwer: Rhaid gwneud pob archeb gan ddefnyddio cod hyrwyddo a ddarperir gan y tîm Cynadleddau. Dylai pawb sydd ag archeb/ymholiad newydd gysylltu â’r tîm Cynadleddau drwy e-bostio conference@bangor.ac.uk neu drwy ffonio 01248388088 i siarad ag aelod o'r tîm cyn archebu.
Os yw eich archeb yn gysylltiedig â digwyddiad, dylai'r trefnydd fod wedi rhoi cod hyrwyddo i chi eisoes.
Cyrraedd / Gadael
***Sylwer bod y Dderbynfa wedi’i lleoli yn Adeilad Idwal gydag arwydd Swyddfa’r Neuaddau ***
Mae map o safle’r brifysgol i’w weld yma - https://www.bangor.ac.uk/commercial-services/documents/ffriddoedd-bangor-map.pdf
- Cyrraedd rhwng dydd Llun a dydd Gwener: Casglwch allwedd eich ystafell o Swyddfa’r Neuaddau (adeilad Idwal) rhwng 2pm a 5pm ar y diwrnod yr ydych yn cyrraedd. Os ydych yn cyrraedd ar ôl 5pm, casglwch eich allwedd o'r Swyddfa Ddiogelwch (Rhif 8 ar y map).
- Cyrraedd rhwng dydd Sadwrn a dydd Sul: Casglwch allwedd eich ystafell o'r Swyddfa Ddiogelwch (Rhif 8 ar y map) o 2pm ymlaen.
- Gadael: Rhaid dychwelyd eich allwedd i'r blwch sydd y tu allan i gyntedd bloc Idwal erbyn 10am ar y diwrnod yr ydych yn gadael.
Cliciwch ar https://www.bangor.ac.uk/commercial-services/documents/guest-information.pdf i weld y daflen wybodaeth llety. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â mi gan ddefnyddio'r manylion isod.
Brecwast
Mae opsiwn brecwast ar gael i archebion grŵp (rhaid cael nifer benodol i hyn). Cysylltwch â'r Tîm Cynadledda am wybodaeth bellach.
Cael Trafferth wrth Archebu eich Ystafell
Os ydych yn profi unrhyw drafferth wrth ddefnyddio'r system archebu ar-lein, neu os oes angen ichi archebu mwy nag 8 ystafell neu aros 8+ o nosweithiau, a fyddech cystal ag anfon e-bost at conference@bangor.ac.uk neu ffonio aelod o'r Tîm Cynadledda ar +44 (0) 1248 388088 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm).
Polisi Canslo
Rhaid canslo 2 wythnos cyn noson gyntaf eich arhosiad i fod yn gymwys i gael ad-daliad. Rhoddir ad-daliad llawn i rai sy’n canslo cyn hynny, llai ffi weinyddol o £10.00 a bydd yr ad-daliad yn cymryd 21 diwrnod i’w brosesu. I ganslo eich archeb, cysylltwch â'r swyddfa’n uniongyrchol gan ddefnyddio’r manylion isod.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae parcio am ddim ar gael yn gyffredinol ar y campws, ac o fis Medi 2022 ymlaen, bydd Trwyddedau Parcio’n cael eu darparu yn y sesiwn Cofrestru.
Er bod y rhan fwyaf o'r llety'n hygyrch, rhowch wybod i ni os oes gennych ofynion penodol fel y gallwn wneud yn siŵr bod ystafelloedd yn addas i chi.
Os ydych yn archebu i grŵp o blant, mae'n rhaid iddynt fod yn 11 oed neu hyn ar adeg eu hymweliad, gan nad yw'r llety'n addas i blant dan 11 oed. Rhaid i blant gael eu goruchwylio tra byddant ar eiddo'r brifysgol a chyfrifoldeb y prif archebwr yw sicrhau bod plant yn cael eu goruchwylio'n briodol drwy gydol eu hymweliad.