Llety
Mae ein hystafelloedd gwely i gyd yn ystafelloedd sengl en-suite, gyda chawod, ac ni chaniateir ysmygu ynddynt. Mae pob ystafell wedi cael safon ansawdd Llety Campws 3- 4* gan Croeso Cymru (gweler yr troednodyn). Categori yw hwn a ddatblygwyd i'r prifysgolion a cholegau hynny a all gynnig llety i ymwelwyr.
Mae'r ystafelloedd ar Safle Ffriddoedd, sef y prif gampws preswyl i fyfyrwyr y brifysgol. Cynllun y neuaddau yw wyth o ystafelloedd gwely unigol mewn 'fflat' diogel.
Codau Hyrwyddo
Rhaid i bob archeb gael ei gwneud gan ddefnyddio cod hyrwyddo a ddarperir gan dîm Cynadleddau. Os yw eich archeb yn gysylltiedig â digwyddiad dylai'r trefnydd fod wedi rhoi cod hyrwyddo i chi eisoes. Dylai pob archeb/ymholiad newydd gysylltu â thîm Gynadleddau ar y manylion cyswllt isod i gadarnhau argaeledd.
Cyrraedd/ Gadael
*** Sylwch fod y Dderbynfa yn Adeilad Idwal, Y Swyddfa Neuaddau (LL57 2JY) ***
www.bangor.ac.uk/commercial-services/documents/ffriddoedd-bangor-map-cy.pdf
- Cyrraedd Dydd Llun – Gwener: Ewch i nôl eich allwedd o ystafell Swyddfa Neuaddau rhwng 4yp a 5yp (Rhif 15 ar y Map - Adeilad Idwal). Os yn cyrraedd ar ol 5yp mae angen i chi fynd i Swyddfa Ddiogelwch (Rhif 8 ar y map) i gasglu eich allwedd.
- Cyrraedd Dydd Sadwrn - Sul: Ewch i nol eich allwedd o Swyddfa Ddiogelwch (Rhif 8 ar y map) o 4yp ymlaen
- Gadael: Rhaid i chi ddychwelyd eich allweddi i'r blwch cyflym sydd wedi'i leoli tu allan i gyntedd bloc Idwal erbyn 10yb ar y diwrnod byddwch yn gadael. Codir tâl o £10.00 am allweddi a gollir.
Cliciwch https:https://www.bangor.ac.uk/commercial-services/documents/gwybodaeth-i-westeion.pdf i gael y daflen wybodaeth am lety. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â mi ar y manylion a roddir isod.
Brecwast
Mae opsiwn brecwast ar gael i archebion grwp (rhaid cael nifer benodol i hyn). Cysylltwch â'r Tîm Cynadledda am wybodaeth bellach.
Cael trafferth i archebu eich ystafell
Pe baech yn cael unrhyw drafferth i ddefnyddio'r system archebu ar-lein hon, neu angen archebu mwy nag 8 ystafell neu aros 8+ o nosweithiau, a fyddech cystal ag anfon e-bost at aros@bangor.ac.uk neu ffonio aelod o'r Tîm Cynadledda ar +44 (0)1248 388088 (Llun - Gwener 9yb - 5yp).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae parcio am ddim ar gael fel rheol ar y campws ac o fis Medi ymlaen bydd thrwydded parcio yn cael eu rhannu i westeion pam yn cyrraedd.
Er bod y rhan fwyaf o'r llety'n hygyrch, rhowch wybod i ni os oes gennych ofynion penodol fel y gallwn wneud yn siŵr bod ystafelloedd yn addas i chi.
Os ydych yn archebu lle i blant, mae'n rhaid iddynt fod yn 11 oed neu hŷn adeg eu hymweliad gan nad yw'r llety'n addas i blant dan 11 oed. Rhaid i blant gael eu goruchwylio tra byddant ar eiddo'r brifysgol a chyfrifoldeb y prif archebwr yw sicrhau bod plant yn cael eu goruchwylio'n briodol drwy gydol eu hymweliad.
Manylion cyswllt:
Swyddfa Gynadledda (Llun-Gwener 9am - 5pm) -☎️ 01248 38 8088 ☎️
📧 conference@bangor.ac.uk 📧